Cwestiynau cyffredin

Beth sy’n digwydd os yw fy nghyfeiriad yn newid?

Os yw’ch cyfeiriad yn newid, cofiwch ddweud wrthym.

Beth sy’n digwydd os yw fy manylion banc neu gymdeithas adeiladu yn newid?

Os yw manylion eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn newid, rhaid i chi ddweud wrthym trwy lenwi’r ffurflen newid manylion banc, sydd ar gael yn ein hadran adnoddau

Beth os ydw i’n symud dramor i fyw?

Gallwn barhau i dalu’ch pensiwn i mewn i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig.

Cysylltwch â ni i weld beth yw ein polisi ynghylch taliadau sy’n wahanol i’r dull hwn o dalu.

Sut y bydd fy ysgariad yn effeithio ar fy mhensiwn?

Bydd gofyn i chi a’ch partner ystyried sut i drin eich pensiwn fel rhan o unrhyw setliad ysgariad/diddymu.

Yswiriant bywyd

Fel aelod o’r Cynllun, mae gennych yswiriant bywyd gwerthfawr, sef cyfandaliad a delir adeg eich marwolaeth. Os ydych wedi mynegi dymuniad i’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil dderbyn yr yswiriant hwn, efallai y byddwch yn dymuno llenwi ffurflen Mynegi Dymuniad newydd (gweler adran 'Adnoddau’) i ddweud wrthym am unrhyw newidiadau.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Cliciwch yma i weld dolenni at nifer o wefannau a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Dolenni defnyddiol