Cwestiynau cyffredin

Beth sy’n digwydd wedi i mi farw?

Beth ddylai’r sawl sy’n gofalu am fy materion ei wneud?

Pan fyddwch chi’n marw, mae’n bwysig i’r sawl sy’n gofalu am eich materion ddweud wrthym cyn gynted â phosibl.

Yna, gallwn atal eich pensiwn a chyflwyno unrhyw bensiynau newydd sy’n ddyledus. Bydd hyn yn gymorth i ni sicrhau nad ydym yn gordalu unrhyw arian ac yna’n gorfod hawlio’r arian yn ôl.

Os digwydd i chi farw, bydd angen i’r sawl sy’n gofalu am eich materion gysylltu â ni a rhoi’r wybodaeth ganlynol i ni:

  • Eich enw, eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni

  • Eich cyfeirnod ar gyfer y gyflogres a’ch rhif Yswiriant Gwladol, a gellir dod o hyd i’r rhain ar slip cyflog diweddar neu ar eich P60

  • Enw a chyfeiriad eich perthynas agosaf

  • Enw a chyfeiriad y sawl sy’n gofalu am eich materion os nad yw’ch perthynas agosaf yn gwneud hynny

  • Dangos y dystysgrif farwolaeth i ni

Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth "Dywedwch Wrthym Unwaith" y llywodraeth sy’n eich galluogi i ddweud wrth y rhan fwyaf o sefydliadau’r llywodraeth am farwolaeth, ar yr un pryd. Bydd y Cofrestrydd yn rhoi manylion y gwasanaeth hwn i chi. Gallwch wylio fideo yn esbonio sut y mae’r gwasanaeth hwn yn gweithio, yma.

Pwy fydd yn cael fy muddion?

Cyfandaliad grant marwolaeth

Gallwch ddweud wrthym beth yw eich dymuniadau trwy lenwi ffurflen Mynegi Dymuniad (gweler adran 'Adnoddau’).

Ni sy’n penderfynu’n derfynol pwy i dalu’r cyfandaliad iddynt. Cyn i ni ddod i unrhyw benderfyniad, byddwn yn ystyried unrhyw ddymuniadau yr ydych wedi eu mynegi, ond ni fyddwn yn rhwym wrthynt.

Pensiynau i oroeswyr

Mae pensiwn i oroesydd yn daladwy i’ch gŵr/gwraig neu’ch partner sifil neu bartner sy’n cydfyw â chi.

Os ydych yn dymuno i ni dalu buddion i bartner sy’n cydfyw â chi, bydd gofyn eu bod yn bodloni amodau penodol.

Pensiynau i blant

Mae pensiynau i blant yn daladwy i unrhyw blant dibynnol cymwys sydd gennych adeg eich marwolaeth.

Cysylltwch â ni os hoffech ragor o wybodaeth.

Cyfandaliad marwolaeth

Efallai y bydd cyfandaliad yn daladwy os ydych yn marw, gan ddibynnu pryd y gadawoch chi’r CPLlL, pryd y gwnaethoch chi ymddeol a sawl blwyddyn o bensiwn yr ydych wedi ei chael.

Os oeddech wedi gadael ar ôl 31 Mawrth 2008, efallai y bydd cyfandaliad yn daladwy os ydych yn marw cyn i chi gymryd deng mlynedd o bensiwn.

Os gadawoch chi’r CPLlL rhwng 1 Ebrill 1998 a 31 Mawrth 2008, efallai y bydd cyfandaliad yn daladwy os ydych yn marw cyn i chi gymryd pum mlynedd o bensiwn.

Os gadawoch chi cyn 1 Ebrill 1998 ac rydych yn cael eich pensiwn, efallai y telir grant marwolaeth wedi i chi farw. Mae’r cyfrifiad yn gymhleth a dylech gysylltu â ni os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth.

Os ydych yn marw yn 75 oed neu ar ôl cyrraedd 75 oed, ni ellir talu cyfandaliad.

Pensiwn i oroeswyr

Wedi i chi farw, efallai y byddwn yn talu pensiwn i’ch gŵr/gwraig neu’ch partner sifil neu’ch partner sy’n cydfyw â chi a'ch plant dibynnol sy’n gymwys.

Mae swm y pensiwn yn seiliedig ar y cyfnod y buoch yn aelod o’r Cynllun, eich cyflog wrth i chi ymddeol ac unrhyw ddibynyddion sydd gennych ar eich ôl. Bydd y pensiwn yn daladwy am oes i’ch gŵr/gwraig neu’ch partner sifil neu bartner sy’n cydfyw â chi, hyd yn oed os ydynt yn ailbriodi.

Nodwch

Os oeddech wedi priodi wedi i chi ymddeol, efallai na fydd y cyfan o’ch aelodaeth yn cyfrif tuag at bensiwn i’ch gŵr neu’ch gwraig, eich partner sifil neu’ch partner sy’n cydfyw â chi.

Mae’r pensiwn a delir i oroeswyr yn dibynnu ar nifer o ffactorau – cysylltwch â ni i gael gwybod beth yw’r manylion sy’n berthnasol i’ch amgylchiadau chi.

Methu â dod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn? Mae ein tîm wrth law ar bob adeg.

Cysylltwch â ni