Cyfandaliad grant marwolaeth

Os digwydd i chi farw tra’ch bod yn gwasanaethu, fel arfer mae cyfandaliad grant marwolaeth yn daladwy i’ch perthynas agosaf. Cyfrifir hyn fel 3 gwaith eich cyflog pensiynadwy blynyddol. Fodd bynnag, efallai na fydd hyn yn wir pan fydd gan aelod nifer o bensiynau yn y CPLlL.

Gallwch enwebu unrhyw un i gael yr arian hwn trwy gyflwyno ‘Ffurflen Mynegi Dymuniad – Enwebu’ i’r gronfa bensiwn (gweler yr adran 'Adnoddau’).

Er mai ni sydd â’r penderfyniad terfynol, o ran pwy fyddwn yn talu’r arian iddynt, fel arfer byddwn yn talu’r arian i’r rheiny yr ydych yn gofyn i ni eu talu.

Pensiwn goroesydd

Wedi i chi farw, efallai y byddwn yn gallu talu pensiwn i’ch gŵr/gwraig neu’ch partner sifil neu’ch partner sy’n cydfyw â chi a’ch plant dibynnol.

Os hoffech i ni dalu buddion i bartner sy’n cydfyw â chi, bydd gofyn iddynt fodloni meini prawf penodol, fel a ganlyn:

  • Roeddech chi a’ch partner sy’n cydfyw â chi yn rhydd i briodi’ch gilydd neu i ffurfio partneriaeth sifil, ac
  • Rydych chi a’ch partner sy’n cydfyw â chi wedi bod yn cydfyw fel gŵr a gwraig neu bartneriaid sifil ac nid ydych chi na’ch partner sy’n cydfyw â chi wedi bod yn byw gyda rhywun arall fel petaech yn ŵr a gwraig neu’n bartneriaid sifil, ac
  • Mae eich partner sy’n cydfyw â chi yn dibynnu’n ariannol arnoch chi neu rydych chi’n ddibynnol ar eich gilydd yn ariannol.

Rhaid bod pob un o’r uchod yn wir am gyfnod parhaus o 2 flynedd, o leiaf, cyn i chi farw.

Mae pensiynau plant yn daladwy i unrhyw blant dibynnol cymwys sydd gennych adeg eich marwolaeth neu sy’n cael eu geni hyd at flwyddyn wedi hynny.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Cyfrifo swm pensiwn goroesydd

Ar gyfer eich gŵr neu wraig, partner sifil neu bartner sy’n cydfyw â chi:

1/160 o’ch cyflog pensiynadwy wedi’i luosi gyda chyfanswm yr aelodaeth a gronnwyd erbyn i chi adael.

Mae’r ddarpariaeth ‘marw yn y swydd’ hefyd yn cynnwys ychwanegiad hyd at Oedran Pensiwn Arferol yr aelod.

Nodwch

Dim ond eich aelodaeth er 6 Ebrill 1988 a ddefnyddir ar gyfer partneriaid sy’n cydfyw, ond gallwch ddewis talu cyfraniadau ychwanegol ar gyfer buddion i oroeswyr er mwyn ymestyn y ddarpariaeth hon i gynnwys cyfnodau cynharach o’ch aelodaeth yn y Cynllun.

Ar gyfer eich plant dibynnol

Sylwer, os oes mwy nag un plentyn dibynnol, yna byddant yn rhannu’r pensiwn yn gyfartal. Fel arfer, telir pensiynau plant hyd nes iddynt gyrraedd 18, neu 23 oed os ydynt yn dal i fod mewn addysg lawn-amser.

Pensiwn i un plentyn, pan fydd pensiwn hefyd yn cael ei dalu i’ch gŵr, gwraig, partner sifil neu bartner sy’n cydfyw â chi

1/320 o’ch cyflog pensiynadwy wedi’i luosi gyda chyfanswm yr aelodaeth y byddech wedi ei chronni hyd nes eich Oedran Pensiwn Arferol.

Pensiwn i un plentyn, lle na thelir pensiwn i’ch gŵr, gwraig, partner sifil neu bartner sy’n cydfyw â chi

1/240 o’ch cyflog pensiynadwy wedi’i luosi gyda chyfanswm yr aelodaeth y byddech wedi ei chronni hyd nes eich Oedran Pensiwn Arferol. 

Pensiwn i ddau blentyn neu fwy, pan fydd pensiwn hefyd yn cael ei dalu i’ch gŵr, gwraig, partner sifil neu bartner sy’n cydfyw â chi

1/160 o’ch cyflog pensiynadwy wedi’i luosi gyda chyfanswm yr aelodaeth y byddech wedi ei chronni hyd nes eich Oedran Pensiwn Arferol.

Pensiwn i ddau blentyn neu fwy, lle na thelir pensiwn i’ch gŵr, gwraig, partner sifil neu bartner sy’n cydfyw â chi a enwebwyd

1/120 o’ch cyflog pensiynadwy wedi’i luosi gyda chyfanswm yr aelodaeth y byddech wedi ei chronni hyd nes eich Oedran Pensiwn Arferol.

Methu â dod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn? Mae ein tîm wrth law ar bob adeg.

Cysylltwch â ni