Rydw i eisiau...
Lleihau fy nghyfraniadau
Yn hytrach nag optio allan, gallwch ddewis aros yn y Cynllun a thalu llai o gyfraniadau.
Cynyddu fy mhensiwn
Mae yna ddwy ffordd i chi dalu mwy er mwyn ychwanegu at eich pensiwn.
Gadael y cynllun
Os ydych yn gadael y Cynllun cyn i chi ymddeol, gallwch ddewis beth i’w wneud gyda’ch pensiwn yn y Cynllun Pensiwn.
Optio allan
Os ydych yn dymuno diweddu eich aelodaeth, cewch optio allan o’ch cyfnod cyflog nesaf.
Cofrestru marwolaeth
Wedi i chi farw, mae’n bwysig bod y sawl sy’n gofalu am eich materion yn dweud wrthym cyn gynted â phosibl.
Beth sy’n digwydd os yw fy nghyfeiriad yn newid?
Os yw’ch cyfeiriad yn newid, cofiwch ddweud wrthym.
Beth sy’n digwydd os yw fy manylion banc neu gymdeithas adeiladu yn newid?
Os yw manylion eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn newid, rhaid i chi ddweud wrthym trwy lenwi’r ffurflen newid manylion banc, sydd ar gael yn ein hadran adnoddau.
Beth os ydw i’n symud dramor i fyw?
Gallwn barhau i dalu’ch pensiwn i mewn i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig.
Cysylltwch â ni i weld beth yw ein polisi ynghylch taliadau sy’n wahanol i’r dull hwn o dalu.
Sut y bydd fy ysgariad yn effeithio ar fy mhensiwn?
Bydd gofyn i chi a’ch partner ystyried sut i drin eich pensiwn fel rhan o unrhyw setliad ysgariad/diddymu.
Yswiriant bywyd
Fel aelod o’r Cynllun, mae gennych yswiriant bywyd gwerthfawr, sef cyfandaliad a delir adeg eich marwolaeth. Os ydych wedi mynegi dymuniad i’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil dderbyn yr yswiriant hwn, efallai y byddwch yn dymuno llenwi ffurflen Mynegi Dymuniad newydd (gweler adran 'Adnoddau’) i ddweud wrthym am unrhyw newidiadau.
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Ffurflenni hunanwasanaeth
LLENWCH Y FFURFLEN HON OS YDYCH AM OPTIO I MEWN I'R CYNLLUN PENSIWN LLYWODRAETH LEOL.
Ffurflen optio i mewn
Darllen mwy
LLENWCH Y FFURFLEN HON OS YDYCH YN DYMUNO OPTIO ALLAN O GYNLLUN PENSIWN LLYWODRAETH LEOL.
Optio allan
Darllen mwy.
LLENWCH Y FFURFLEN HON OS YDYCH YN DYMUNO TROSGLWYDDO O BRIF ADRAN Y CYNLLUN PENSIWN LLYWODRAETH LEOL I’R ADRAN 50/50 Y CYNLLUN.
Ffurflen opsiwn 50/50
Darllen mwy