Er 1 Ebrill 2014, nid yw aelodaeth o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar gael lle mae’n cael ei chynnig o dan gynllun lwfansau cyngor yn Lloegr. Ond, mae’n dal i fod yn agored i gynghorwyr a meiri etholedig cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru, sy’n iau na 75 oed.

Mae’r CPLlL i gynghorwyr yn gynllun cyfartaledd gyrfa â buddion diffiniedig ac mae wedi’i warantu’n gyfreithiol. Mae’r cyfrifiad ar gyfer eich pensiwn terfynol yn seiliedig ar hyd eich aelodaeth a’ch cyflog cyfartalog yn ystod eich aelodaeth fel cynghorydd.  Bydd eich hawl i gael pensiwn yn ddibynnol ar eich oedran. Gellir cymryd y pensiwn yn llawn ar unrhyw adeg, o’r oedran pensiwn arferol, ond rhaid ei gymryd cyn cyrraedd 75 oed.

Sut ydw i’n ymuno a beth yw’r gost?

Mae aelodaeth yn ddewisol ac nid yw’n awtomatig. Os ydych yn dymuno ymuno,, llenwch ffurflen ymuno a’i dychwelyd. Unwaith y ceir eich ffurflen gyflawn, caiff ei phrosesu gan y tîm pensiynau a bydd y tîm pensiynau yn anfon hysbysiad ffurfiol atoch.

Mae eich cyfraniadau yn 6% o’ch lwfansau fel cynghorydd. Os ydych yn talu treth, cewch ryddhad treth ar eich cyfraniadau.

Cliciwch yma i weld dolenni at nifer o wefannau a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Dolenni defnyddiol