Beth ddylech chi ei wneud os digwydd i rywbeth fynd o’i le?

Rydym yn gwneud ein gorau glas i gael pethau’n iawn, fel na fydd gennych unrhyw gŵynion. Os oes gennych gŵyn, cysylltwch â ni er mwyn i ni unioni’r cam cyn gynted â phosibl.

Os na fyddwn yn gallu datrys eich cwyn yn anffurfiol, mae gennym weithdrefn anghydfod ffurfiol (gallwch ddod o hyd iddi yn yr adran adnoddau) y gallwch ei dilyn.

Adnoddau

Cyn 2018, petaech yn cael trafferth datrys eich cwyn, gallech gysylltu â gwasanaeth o’r enw The Pensions Advisory Service (TPAS). Nid yw TPAS yn bodoli mwyach fel mudiad ar wahân. Symudodd y Gwasanaeth Datrysiad Cynnar (datrys anghydfod yn anffurfiol) i fod yn rhan o swyddfa’r Ombwdsmon Pensiynau yn 2018, a chymerwyd yr adran cynghori ar bensiynau i mewn i’r hyn sydd bellach yn cael ei alw’n HelpwrArian.

Yr Ombwdsmon Pensiynau

Os nad ydych yn hapus â’r ateb i’ch cwyn ac nid yw TPAS wedi llwyddo i’ch helpu, gallwch gysylltu â’r Ombwdsmon Pensiynau a fydd yn gallu ymchwilio i’ch achos.

HelpwrArian

Os oes arnoch angen gwneud cwyn sy’n gysylltiedig â phensiwn, gall Helpwr Arian gynnig cyngor diduedd, rhad ac am ddim, ar-lein neu dros y ffôn.

Gwerthfawrogir eich adborth

Os cawsoch wasanaeth rhagorol gan y gronfa bensiwn, byddai’n wych clywed gennych.

Gwerthfawrogir unrhyw negeseuon o ganmoliaeth a sylwadau cyffredinol, felly da chi, peidiwch ag oedi rhag anfon e-bost atom. Mae ein manylion cyswllt ar gael yma.

Methu â dod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano? Mae ein tîm wrth law ar bob adeg.

Cysylltwch â ni

Anghydfodau’n Fewnol

Cliciwch ar y saeth i ehangu

Polisi Canmoliaeth a Chwynion Mawrth 2022

Ffurflen Gweithdrefn Datrys Anghydfodau’n Fewnol (Cymraeg)

Ffurflen Gweithdrefn Datrys Anghydfodau’n Fewnol (Saesneg)