Cofrestru marwolaeth
Wedi i chi farw, mae’n bwysig bod y Gronfa yn cael gwybod cyn gynted â phosibl.
Wedi i chi farw, mae’n bwysig bod y Gronfa yn cael gwybod cyn gynted â phosibl.
Pan fyddwch chi’n marw, mae’n bwysig i’r sawl sy’n gofalu am eich materion ddweud wrthym cyn gynted â phosibl. Yna, gallwn atal eich pensiwn a chyflwyno unrhyw bensiynau newydd sy’n ddyledus. Bydd hyn yn gymorth i ni sicrhau nad ydym yn gordalu unrhyw arian ac yna’n gorfod hawlio’r arian yn ôl.
Os digwydd i chi farw, bydd angen i’r sawl sy’n gofalu am eich materion gysylltu â ni a rhoi’r wybodaeth ganlynol i ni:
Eich enw, eich cyfeiriad a dyddiad eich marwolaeth
Eich cyfeirnod ar gyfer y gyflogres a’ch rhif Yswiriant Gwladol, a gellir dod o hyd i’r rhain ar slip cyflog diweddar neu ar eich P60
Enw a chyfeiriad eich perthynas agosaf
Enw a chyfeiriad y sawl sy’n gofalu am eich materion os nad yw’ch perthynas agosaf yn gwneud hynny
Dangos y dystysgrif farwolaeth i ni
Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth "Dywedwch Wrthym Unwaith" y llywodraeth sy’n eich galluogi i ddweud wrth y rhan fwyaf o sefydliadau’r llywodraeth am farwolaeth, ar yr un pryd. Bydd y Cofrestrydd yn rhoi manylion hyn i chi. Gallwch wylio fideo yn esbonio sut y mae’r gwasanaeth hwn yn gweithio, yma.