Newid fy manylion
Os bydd eich amgylchiadau personol yn newid, bydd angen i chi ein hysbysu. Cewch fwy o fanylion yma.
Os bydd eich amgylchiadau personol yn newid, bydd angen i chi ein hysbysu. Cewch fwy o fanylion yma.
Os yw’ch cyfeiriad yn newid, cofiwch ddweud wrthym.
Os yw manylion eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn newid, rhaid i chi ddweud wrthym trwy lenwi’r ffurflen newid manylion banc, sydd ar gael yn ein hadran adnoddau.
Gallwn barhau i dalu’ch pensiwn i mewn i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig.
Cysylltwch â ni i weld beth yw ein polisi ynghylch taliadau sy’n wahanol i’r dull hwn o dalu.
Bydd gofyn i chi a’ch partner ystyried sut i drin eich pensiwn fel rhan o unrhyw setliad ysgariad/diddymu.
Fel aelod o’r Cynllun, mae gennych yswiriant bywyd gwerthfawr, sef cyfandaliad a delir adeg eich marwolaeth. Os ydych wedi mynegi dymuniad i’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil dderbyn yr yswiriant hwn, efallai y byddwch yn dymuno llenwi ffurflen Mynegi Dymuniad newydd (gweler adran 'Adnoddau’) i ddweud wrthym am unrhyw newidiadau.
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.