Marw yn ystod eich ymddeoliad
Os digwydd i chi farw pan fyddwch chi’n cael pensiwn, bydd unrhyw fuddion sy’n daladwy yn dibynnu ar ddyddiad eich ymddeoliad ac a oes gennych unrhyw ddibynyddion ai peidio adeg eich marwolaeth.
Os digwydd i chi farw pan fyddwch chi’n cael pensiwn, bydd unrhyw fuddion sy’n daladwy yn dibynnu ar ddyddiad eich ymddeoliad ac a oes gennych unrhyw ddibynyddion ai peidio adeg eich marwolaeth.
Pan fyddwch chi’n marw, mae’n bwysig i’r sawl sy’n gofalu am eich materion ddweud wrthym cyn gynted â phosibl.
Yna, gallwn atal eich pensiwn a chyflwyno unrhyw bensiynau newydd sy’n ddyledus. Bydd hyn yn gymorth i ni sicrhau nad ydym yn gordalu unrhyw arian ac yna’n gorfod hawlio’r arian yn ôl.
Os digwydd i chi farw, bydd angen i’r sawl sy’n gofalu am eich materion gysylltu â ni a rhoi’r wybodaeth ganlynol i ni:
Eich enw, eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni
Eich cyfeirnod ar gyfer y gyflogres a’ch rhif Yswiriant Gwladol, a gellir dod o hyd i’r rhain ar slip cyflog diweddar neu ar eich P60
Enw a chyfeiriad eich perthynas agosaf
Enw a chyfeiriad y sawl sy’n gofalu am eich materion os nad yw’ch perthynas agosaf yn gwneud hynny
Dangos y dystysgrif farwolaeth i ni
Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth "Dywedwch Wrthym Unwaith" y llywodraeth sy’n eich galluogi i ddweud wrth y rhan fwyaf o sefydliadau’r llywodraeth am farwolaeth, ar yr un pryd. Bydd y Cofrestrydd yn rhoi manylion y gwasanaeth hwn i chi. Gallwch wylio fideo yn esbonio sut y mae’r gwasanaeth hwn yn gweithio, yma.
Gallwch ddweud wrthym beth yw eich dymuniadau trwy lenwi ffurflen Mynegi Dymuniad (gweler adran 'Adnoddau’).
Ni sy’n penderfynu’n derfynol pwy i dalu’r cyfandaliad iddynt. Cyn i ni ddod i unrhyw benderfyniad, byddwn yn ystyried unrhyw ddymuniadau yr ydych wedi eu mynegi, ond ni fyddwn yn rhwym wrthynt.
Mae pensiwn i oroesydd yn daladwy i’ch gŵr/gwraig neu’ch partner sifil neu bartner sy’n cydfyw â chi.
Os ydych yn dymuno i ni dalu buddion i bartner sy’n cydfyw â chi, bydd gofyn eu bod yn bodloni amodau penodol.
Mae pensiynau i blant yn daladwy i unrhyw blant dibynnol cymwys sydd gennych adeg eich marwolaeth.
Cysylltwch â ni os hoffech ragor o wybodaeth.
Efallai y bydd cyfandaliad yn daladwy os ydych yn marw, gan ddibynnu pryd y gadawoch chi’r CPLlL, pryd y gwnaethoch chi ymddeol a sawl blwyddyn o bensiwn yr ydych wedi ei chael.
Os oeddech wedi gadael ar ôl 31 Mawrth 2008, efallai y bydd cyfandaliad yn daladwy os ydych yn marw cyn i chi gymryd deng mlynedd o bensiwn.
Os gadawoch chi’r CPLlL rhwng 1 Ebrill 1998 a 31 Mawrth 2008, efallai y bydd cyfandaliad yn daladwy os ydych yn marw cyn i chi gymryd pum mlynedd o bensiwn.
Os gadawoch chi cyn 1 Ebrill 1998 ac rydych yn cael eich pensiwn, efallai y telir grant marwolaeth wedi i chi farw. Mae’r cyfrifiad yn gymhleth a dylech gysylltu â ni os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth.
Os ydych yn marw yn 75 oed neu ar ôl cyrraedd 75 oed, ni ellir talu cyfandaliad.
Wedi i chi farw, efallai y byddwn yn talu pensiwn i’ch gŵr/gwraig neu’ch partner sifil neu’ch partner sy’n cydfyw â chi a'ch plant dibynnol sy’n gymwys.
Mae swm y pensiwn yn seiliedig ar y cyfnod y buoch yn aelod o’r Cynllun, eich cyflog wrth i chi ymddeol ac unrhyw ddibynyddion sydd gennych ar eich ôl. Bydd y pensiwn yn daladwy am oes i’ch gŵr/gwraig neu’ch partner sifil neu bartner sy’n cydfyw â chi, hyd yn oed os ydynt yn ailbriodi.
Os oeddech wedi priodi wedi i chi ymddeol, efallai na fydd y cyfan o’ch aelodaeth yn cyfrif tuag at bensiwn i’ch gŵr neu’ch gwraig, eich partner sifil neu’ch partner sy’n cydfyw â chi.
Mae’r pensiwn a delir i oroeswyr yn dibynnu ar nifer o ffactorau – cysylltwch â ni i gael gwybod beth yw’r manylion sy’n berthnasol i’ch amgylchiadau chi.