Os ydych yn dymuno trosglwyddo eich pensiwn, dylech ddweud wrth eich cynllun newydd fod gennych fuddion yn y Cynllun Pensiwn.
-
Byddant yn dod atom i ofyn am werth trosglwyddo ac yn dweud wrthych beth yw gwerth y buddion yn eu cynllun nhw.
-
Yna, bydd eich cyflogwr newydd neu gynllun pensiwn newydd yn gweithio gyda chi i weld a ydych yn dymuno bwrw ymlaen â’r trosglwyddiad.
-
Os ydych yn penderfynu eich bod eisiau bwrw ymlaen â’r trosglwyddiad byddant yn gofyn i ni dalu’r taliad trosglwyddo draw i’ch cynllun pensiwn newydd.
-
Efallai y bydd yna gyfyngiadau amser. Gwiriwch hyn gyda’ch cynllun newydd cyn gynted ag yr ymunwch chi.
Mae penderfynu trosglwyddo eich buddion yn benderfyniad pwysig. Efallai yr hoffech gael cyngor ariannol annibynnol.
Rhaid dewis trosglwyddo eich buddion (heblaw am Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol) o leiaf 12 mis cyn eich Oedran Pensiwn Arferol.
Os gwneir taliad trosglwyddo llawn, ni fydd hawl gennych i unrhyw fuddion pellach o’r CPLlL i chi na’ch cymar, partner sifil cofrestredig nac, yn amodol ar delerau cymhwyso penodol, eich partner sy’n cydfyw â chi na’ch plant cymwys.
Gallwch drosglwyddo eich pensiwn CPLlL at gynllun pensiwn tramor ar yr amod ei fod yn bodloni rhai amodau a osodir gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi.
Cewch fanylion perthnasol hefyd ar y wefan genedlaethol i aelodau’r CPLlL yng Nghymru a Lloegr.
Swyddi niferus
Os ydych yn aelod o’r Cynllun ar gyfer mwy nag un swydd, ac yn gadael un ohonynt, gallwch ddewis budd gohiriedig ar gyfer yr hawl hwn (gan ddibynnu ar hyd eich aelodaeth) neu gallwch drosglwyddo’r aelodaeth at swydd arall.
Ad-daliadau
Rhaid bod gennych lai na 2 flynedd o aelodaeth gyda’r Cynllun, a rhaid eich bod heb drosglwyddo buddion i mewn o gynllun pensiwn arall, er mwyn i chi gael eich cyfraniadau yn ôl.
Gellir ad-dalu eich cyfraniadau chi yn unig ac nid cyfraniadau eich cyflogwr. Tynnir swm o’ch cyfrif i wneud iawn am y rhyddhad treth ac, os yn berthnasol, Yswiriant Gwladol.