Gallwch ddewis yr opsiwn hwn ar unrhyw adeg, ac mae’n golygu eich bod yn talu hanner y cyfraniadau y byddech yn eu talu fel arfer, ond yn cronni hanner y pensiwn yn unig yn ystod y cyfnod y byddwch yn talu llai o gyfraniadau.

Os oes gennych fwy nag un swydd lle’r ydych yn aelod o’r Cynllun, gallwch dalu llai o gyfraniadau ar gyfer un o’r swyddi, rhai o’r swyddi neu bob un o’r swyddi hynny.

Trwy dalu llai o gyfraniadau, nid ydych yn effeithio ar y buddion i oroeswyr na’r ddarpariaeth marw yn y swydd sydd gennych yn rhan o’r Cynllun. Am ragor o wybodaeth am fuddion i oroeswyr, cliciwch ar y ddolen hon. 

Cynlluniwyd yr opsiwn 50/50 fel ateb byrdymor yn unig. Cewch eich cofrestru yn ôl ym mhrif adran y Cynllun yn awtomatig yn unol â dyddiad ailgofrestru awtomatig eich cyflogwr, felly ar ôl tair blynedd o leiaf. Byddwch hefyd yn cael eich gosod yn ôl i mewn i brif adran y Cynllun yn ystod unrhyw gyfnod o absenoldeb neu anaf pan na fyddwch yn cael unrhyw gyflog. Os ydych yn dymuno parhau i ddefnyddio’r opsiwn 50/50 rhaid i chi ofyn eto i’ch cyflogwr.

Wrth gwrs, gallwch ddewis symud yn ôl i mewn i brif adran y Cynllun ar unrhyw adeg a bydd eich cyflogwr yn gwneud hynny o’r cyfnod cyflog ar ôl eich cais ysgrifenedig.

Os ydych yn talu cyfraniadau pensiwn ychwanegol, yna bydd y rhain yn dod i ben ar yr adeg y byddwch yn dewis cymryd yr opsiwn 50/50, onid oeddent i wneud iawn am gyfnod o absenoldeb o’r gwaith.

Ceir rhagor o wybodaeth am dalu llai o gyfraniadau trwy’r adran 50/50 ar wefan CPLlL.   

Cliciwch yma i weld dolenni at nifer o wefannau a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Dolenni defnyddiol