Optio allan
Os ydych yn dymuno canslo eich aelodaeth, cewch optio allan o’ch cyfnod cyflog nesaf.
Os ydych yn dymuno canslo eich aelodaeth, cewch optio allan o’ch cyfnod cyflog nesaf.
Er bod aelodaeth â’r Cynllun yn awtomatig mewn llawer o achosion, nid yw’n orfodol, hyd yn oed os ydych yn ymuno o dan gofrestriad awtomatig. Gallwch ganslo eich aelodaeth ar unrhyw adeg.
Dylech gofio y gallai fod yn ofyniad cyfreithiol i’ch cyflogwr eich ailgofrestru gyda’r CPLlL yn nes ymlaen, mewn rhai amgylchiadau, er eich bod eisoes wedi dewis peidio â bod yn y Cynllun.
Ar wahân i’r prif fuddion adeg eich ymddeoliad, byddwch yn colli elfennau ychwanegol fel darpariaeth ar gyfer salwch, os ydych yn optio allan. Efallai y byddwch yn dymuno cael cyngor ariannol annibynnol cyn optio allan. Cewch fanylion am gyngor ariannol annibynnol ar y dudalen 'Dolenni defnyddiol'.
Os ydych yn ystyried optio allan oherwydd y gost, gallwch aros yn y Gronfa a thalu llai.
Mae yna opsiwn o’r enw 50/50 sy’n eich galluogi i dalu hanner y cyfraniadau a chronni hanner y pensiwn yn unig. Os oes gennych fwy nag un swydd, gallwch ddewis gwneud hyn ar gyfer un o’r swyddi hynny, rhai ohonynt neu bob un ohonynt.
Ni fydd hyn yn effeithio ar fuddion eich goroeswyr.
Bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi nodi’ch dewis yn ysgrifenedig.
Bwriedir hyn fel ateb byrdymor yn unig, a bydd yn rhaid i chi dalu’r cyfraniadau llawn unwaith eto pan fydd yn rhaid i’ch cyflogwr eich ailgofrestru, bob tair blynedd. Os ydych yn absennol o’r gwaith heb gyflog oherwydd salwch, bydd yn rhaid i chi dalu’r gyfradd lawn unwaith y bydd eich cyflog yn ailddechrau.
Os ydych yn dymuno optio allan, gallwch wneud hynny ar unrhyw adeg. Bydd gofyn i chi lenwi’r ffurflen optio allan (gweler yr adran 'Adnoddau') a’i dychwelyd at eich cyflogwr ar unwaith er mwyn i’ch cyflogwr gymryd y camau angenrheidiol i’ch tynnu chi allan o’r Cynllun a, lle y bo’n berthnasol, trefnu ad-dalu’r cyfraniadau pensiwn yr ydych wedi eu talu i mewn i’r Cynllun. Gallwch ofyn i’ch cyflogwr ganslo eich aelodaeth ar unrhyw adeg ar ôl eich cais. Fel arall byddant yn ei chanslo o ddechrau’r cyfnod cyflog nesaf. Fodd bynnag, nodwch na ellir derbyn unrhyw ffurflen optio allan a lenwyd cyn i chi ddechrau yn eich swydd, a bydd yn rhaid i chi gyflwyno cais pellach ar ddyddiad cychwyn eich cyflogaeth neu ar ôl y dyddiad hwnnw, os ydych yn dymuno optio allan.
Os ydych wedi ymuno â’r CPLlL ar gychwyn eich cyflogaeth, neu am i chi gael eich cofrestru’n awtomatig neu ailgofrestru, yna rhaid i chi gadarnhau eich dymuniadau gyda’ch cyflogwr heb fod yn hwyrach na thri mis ar ôl i chi ymuno â’r Cynllun, er mwyn i chi gael eich cyfraniadau yn ôl a chael eich trin fel un sydd heb fod yn aelod o gwbl.
Mae optio allan o’r CPLlL yn benderfyniad mawr gan y byddwch yn ildio incwm wedi’i warantu wedi i chi ymddeol, yn ogystal â buddion eraill fel yswiriant bywyd gwerthfawr tra’ch bod yn gweithio. Os ydych yn dewis optio allan, byddwch hefyd yn ildio cynilion ychwanegol yr ydym ni a’r Llywodraeth yn eu cynnig i’ch helpu i gynilo. Os ydych yn ystyried optio allan, rydym yn argymell eich bod yn siarad â Chynghorydd Ariannol Annibynnol cyn i chi ddod i benderfyniad. Cewch wybodaeth am gyngor ariannol annibynnol ar y dudalen ‘Dolenni defnyddiol’.