Sut y mae cynllun Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio yn gweithio
Rhoddir gwerth i bob blwyddyn o aelodaeth ar sail eich cyflog yn y flwyddyn honno ac yna caiff ei adbrisio bob blwyddyn i adlewyrchu chwyddiant.
Rhoddir gwerth i bob blwyddyn o aelodaeth ar sail eich cyflog yn y flwyddyn honno ac yna caiff ei adbrisio bob blwyddyn i adlewyrchu chwyddiant.
Ar 1 Ebrill 2014 daeth y CPLlL yn gynllun Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio. Mae cynllun Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio yn cyfrifo pensiwn gan ddefnyddio’r fformwla ganlynol:
Pensiwn = Cyfradd Groniadau x Cyflog Pensiynadwy
Mewn cynllun Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio defnyddir cyflog pensiynadwy pob blwyddyn o aelodaeth, er mwyn cyfrifo swm y pensiwn ar gyfer y flwyddyn honno. Yna, caiff swm y pensiwn ei adbrisio bob blwyddyn yn unol â chwyddiant (dylid cofio, er y gallai fod disgwyl i’ch pensiwn Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio godi bob blwyddyn, gallai’r pensiwn leihau petai chwyddiant negyddol). Yna, caiff y symiau pensiwn unigol hyn eu cyfuno er mwyn rhoi cyfanswm y pensiwn sy’n daladwy o’r cynllun.
Yn y CPLlL, y gyfradd groniadau ar gyfer y prif gynllun yw 1/49.
Yn y cynllun "50-50" dewisol, mae’r gyfradd groniadau yn 1/98 (hynny yw hanner 1/49) – ond dim ond hanner y gyfradd gyfrannu y byddwch yn ei thalu o gymharu â’r prif gynllun.
Enghraifft (prif gynllun)
Mae Tom yn ennill £20,000, ac felly cyfrifir ei bensiwn ym mlwyddyn 1 fel: £20,000 x 1/49 = £408
Caiff y £408 y mae Tom yn ei ennill ym mlwyddyn 1 ei adbrisio ar ddiwedd y flwyddyn nesaf. Felly ar ddiwedd blwyddyn 2, mae’r gyfran hon o bensiwn Tom yn £408 x 1.04 = £424
Enghraifft (cynllun 50-50)
Petai Tom yn optio i fod yn y cynllun 50-50 yn lle’r prif gynllun ac mae’n dal i ennill £20,000, byddai ei bensiwn ym mlwyddyn un yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn: £20,000 x 1/98th = £204.
Caiff y £204 y mae Tom yn ei ennill ym mlwyddyn 1 ei adbrisio ar ddiwedd y flwyddyn nesaf. Felly ar ddiwedd blwyddyn 2, mae’r elfen hon o bensiwn Tom yn £204 x 1.04 = £212.